English     |      Cymraeg

Y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu

Y Rôl

 

Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu
Cyflog cystadleuol yn yr ystod o £117,783 – £135,297 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad

 

Bydd y rôl arweinyddiaeth hon ar ei newydd wedd yn gwthio datblygiad strategol a darpariaeth amgylchedd gwasanaethau proffesiynol integredig ac o safon ym Mhrifysgol Caerdydd drwy gyflawni’r canlynol:

 

  • Arwain gwaith trawsnewid y gwasanaeth drwy gydol y cylch oes academaidd a chylch oes y myfyrwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol yn gydlynol, yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gynhwysol ac yn gyson â blaenoriaethau sefydliadol.
  • Darparu trosolwg strategol ac arwain ar feysydd gweithredol mawr, gan gynnwys Profiad y Myfyrwyr, Gweithrediadau Addysg, Cefnogi Addysg, Llywodraethu, Amserlennu a Gweithrediadau’r Colegau.
  • Hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, gan ymgorffori trawsnewid digidol, integreiddiad gwasanaethau ac arferion gweithredol sy’n arwain y sector.
  • Gyrru cynllunio strategol, rheoli risg a sicrwydd cyflawniad, gan sicrhau dyrannu adnoddau’n effeithiol a llywodraethu cadarn.
  • Arwain a grymuso timau amlddisgyblaethol, datblygu talent, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, a modelu ein gwerthoedd sefydliadol.
  • Bod yn bartner strategol allweddol ar draws y Brifysgol, cynrychioli’r gwasanaethau proffesiynol, cyfrannu at waith llywodraethu, a dirprwyo i’r Prif Swyddog Gweithredu.

 

Dyma gyfle arbennig i arweinydd deinamig a blaengar ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Caerdydd. Os ydych yn angerddol am ddarparu gwasanaethau o safon, grymuso timau a gyrru newid sefydliadol, carem glywed gennych.

 

Mae manylion llawn y rôl, gan gynnwys y prif gyfrifoldebau a dyletswyddau, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, wedi’u cynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth, sydd ar gael i’w lawrlwytho isod.

Dogfennau

Pecyn Gwybodaeth

Download