English     |      Cymraeg

Y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu

Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd

Agorodd y Brifysgol ei drysau ar 24 Hydref 1883 ac fe’i sefydlwyd yn ffurfiol gan y Siarter Frenhinol ym 1884. Rydym bellach yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, wedi’i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gan ddefnyddio ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau yn sail i hyn oll, yn ogystal â thynnu ar ein harbenigedd academaidd a phroffesiynol, rydym wedi datblygu ein cyfeiriad strategol gyda’n gilydd. Mae ‘Ein dyfodol, gyda’n gilydd‘ yn cynllunio’r ffordd tuag at 2035.

Ein cenhadaeth yw creu ar y cyd, rhannu gwybodaeth newydd a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i fod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd, yn rhagorol ein hymchwil ac yn odidog ein haddysg, yn ogystal â chael effaith drawsnewidiol ar Gaerdydd, Cymru, y DU a’r byd, a hynny’n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

Mae gennym boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr sy’n dod o fwy na 100 o wledydd a nifer o gefndiroedd gwahanol, ac rydym yn denu buddsoddiad o safon uchel o’r sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, sy’n troi ein hymchwil o’r radd flaenaf yn gynnyrch, gwasanaethau a phrosesau’r dyfodol.

Mae hon yn foment hollbwysig i Brifysgol Caerdydd wrth i ni drawsnewid ein gwasanaethau proffesiynol, i wella profiad ein myfyrwyr a staff yn ogystal â chefnogi dyheadau ein strategaeth, Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn ail-lunio ein hamgylchedd gwaith ar draws y Brifysgol i ddarparu gwasanaethau integredig, cynhwysol a digidol ddatblygedig, sy’n ymateb i anghenion esblygol ein cymuned. Bydd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu’n rhan greiddiol o’r gwaith hwn, yn sicrhau bod ein pobl, systemau a phrosesau’n darparu gwasanaethau rhagorol, integredig a hyblyg sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ym mhopeth rydym yn ei wneud