English     |      Cymraeg

Cyfarwyddwr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Swydd: Cyfarwyddwr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Lleoliad: Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerloyw a Glasgow, yn ogystal â chynnig cyfle i aelodau staff weithio’n hyblyg o gartref

Math o Swydd: Llawn-amser, parhaol neu secondiad o Un Flwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau: 35 awr yr wythnos, gweithio hyblyg ar gael

Cyflog: oddeutu £70K y flwyddyn, yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad, ynghyd â buddion rhagorol

Dyddiad cau: hanner-nos, ddydd Llun 16eg Ionawr

 

Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yw’r corff annibynnol yr ymddiriedir ynddo i fonitro a chynghori ar safonau ac ansawdd mewn addysg uwch yn y DU. Rydym yn gweithio gydag ystod o arbenigwyr a chymuned addysg uwch y DU i sicrhau bod y tair miliwn o fyfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymhwyster yn y DU yn cael yr addysg y mae ganddynt hawl i’w disgwyl. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud yn uniongyrchol â phob agwedd ar ein gwaith.

Mae ein gweithgareddau’n cwmpasu pob un o bedair gwlad y DU, gan gydnabod bod yna ymagweddau gwahanol at yr amcan cyffredin o sicrhau a hyrwyddo ansawdd addysgol.

Mae’r rôl hon yn ganolog i waith QAA gyda myfyrwyr, llywodraethau a sefydliadau o ran sicrhau a gwella ansawdd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae’r rôl hefyd yn cydlynu ein hymgysylltiad helaeth â Phroses Bologna, gan gynnwys darparu cyngor i’r sefydliadau hynny sy’n aelodau a chyngor polisi i lywodraethau ledled y DU.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cyfeiriad strategol rôl QAA yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan osod a gwerthuso safonau cyflwyno a chymryd cyfrifoldeb am berfformiad, gan sicrhau lefelau uchel o ymddiriedaeth a boddhad ymhlith rhanddeiliaid yn y gwledydd hyn. Mae adolygiadau’n mynd rhagddynt o addysg ôl-orfodol yng Nghymru a’r Alban, ac mae QAA am sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gefnogi’r cyfeiriadau polisi hyn.

Yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithredoedd (Dirprwy Brif Weithredwr), bydd y prif gyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Ymgysylltu â sefydliadau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys pob agwedd ar sicrhau a gwella ansawdd, a hefyd gwneud yn siŵr bod cyfraniad unigryw QAA yn cael ei hyrwyddo a’i ddeall gan grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
  • Arwain y gwaith o gyflawni ein gweithgarwch sicrhau a gwella ansawdd ledled yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau fod i’r gwaith hwn y lefel uchaf o ran ansawdd a’r hygrededd.
  • Adolygu ein gwaith yn erbyn deilliannau’r datblygiadau ym maes addysg drydyddol yng Nghymru a’r Alban i sicrhau ei fod yn berthnasol, yn flaengar ac o werth uchel i ddarparwyr
  • Cymryd rhan yn y broses o weithredu Côd Ansawdd Addysg Uwch y DU a’r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd (ESG) er mwyn sicrhau bod gwaith QAA yn unol â disgwyliadau Ewropeaidd ac yn rhoi cyfrif llawn am anghenion yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
  • Sicrhau bod Pwyllgor Gwaith, Bwrdd a staff perthnasol QAA yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau gwleidyddol a deddfwriaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ddarparu cyngor a drafftio ymatebion i ymgynghoriadau yn ôl yr angen.
  • Fel aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth QAA, datblygu a rheoli perthnasoedd strategol gyda rhanddeiliaid allweddol o fewn y sefydliad ac ar draws y gwledydd, gan gynnwys y mudiadau sector, llywodraethau, cyrff cynrychioli a chyrff proffesiynol priodol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn denu unigolion sydd â phrofiad ym maes addysg uwch, addysg bellach a/neu sicrhau ansawdd a gwella ansawdd, sy’n ymroddedig i genhadaeth a gwerthoedd QAA ac sy’n dod â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i sicrhau bod QAA yn cyflawni ei nodau strategol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o reoli ar lefel uwch, datblygu a gweithredu strategaeth ac amcanion y sefydliad, efallai gyda chyfrifoldeb am sicrhau a gwella ansawdd addysg uwch ac addysg bellach. Rhaid bod gennych sgiliau arweinyddiaeth a rheoli cyllideb cryf.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://aspenpeople.co.uk/qaa

Am drafodaeth gyfrinachol am y rôl hon cysylltwch â Debbie Shields, Kate Kennedy neu Lauryn Pringle yn ein partneriaid recriwtio, Aspen People, ar 0141 212 7555.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner-nos, dydd Llun 16eg Ionawr.

I wneud cais am y rôl hon, cyflwynwch eich CV gyda llythyr eglurhaol byr. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a gallwn hefyd gyfweld yn Gymraeg os mai dyma yw eich dewis; rhowch wybod i ni yn eich llythyr eglurhaol.

Mae QAA wedi ymrwymo’n llwyr i hyblygrwydd o ddydd-i-ddydd, ac mae wedi mabwysiadu diwylliant sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a thegwch sy’n wirioneddol annog QAA ac unigolion i ffynnu. Cyn belled â bod anghenion busnes yn cael eu diwallu, dylai gweithwyr fel rheol allu gweithio ble a phryd maen nhw’n dymuno. Mae llawer o’n gweithwyr yn gweithio’n hyblyg mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys trefniadau rhan-amser ac oriau cywasgedig. Rhowch wybod i ni am y math o hyblygrwydd sydd ei angen arnoch yn eich cais.

Mae QAA yn cydnabod buddion cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo’u hunaniaeth neu eu cefndir a’u bod yn gallu rhoi o’u gorau. Rydym yn gosod gwerth ar y gwahaniaethau y mae amrywiaeth o ran cefndiroedd, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig, ac yn annog ymgeiswyr â chymwysterau addas i ymgeisio ac ymuno â ni.