English     |      Cymraeg

Cyfarwyddwr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Croeso

Croeso, a diolch am fynegi diddordeb mewn ymuno â’r uwch dîm yn QAA.

Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy’n gweithio er budd myfyrwyr ac addysg uwch, ac yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes sicrhau ansawdd. Rydym yn diogelu safonau academaidd, ynghyd â sicrhau ansawdd ac enw da byd-eang addysg uwch y DU.  Rydym yn gwneud hyn drwy weithio gyda darparwyr addysg uwch, cyrff rheoleiddio a chyrff myfyrwyr, â’r amcan cyffredin o gynorthwyo myfyrwyr i lwyddo.

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae ein gwaith ym maes gwella ansawdd ac ar gyfer yr aelodaeth yn cael ei ddarparu ar y cyd â’n gweithgareddau sicrhau ansawdd, ac mae’n seiliedig arno. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r holl ddarparwyr addysg uwch, cyllidwyr a rheolyddion priodol, yn unol â pholisi a dull rheoleiddio pob gwlad.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo cyfeiriad strategol rôl QAA yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan osod a gwerthuso safonau cyflwyno a chymryd cyfrifoldeb am berfformiad, gan sicrhau lefelau uchel o ymddiriedaeth a boddhad ymhlith rhanddeiliaid yn y gwledydd hyn. Mae adolygiadau’n mynd rhagddynt o addysg ôl-orfodol yng Nghymru a’r Alban, ac mae QAA am sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gefnogi’r cyfeiriadau polisi hyn.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn denu unigolion sydd â phrofiad ym maes addysg uwch, addysg bellach a/neu sicrhau ansawdd a gwella ansawdd, sy’n ymroddedig i genhadaeth a gwerthoedd QAA ac sy’n dod â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i sicrhau bod QAA yn cyflawni ei nodau strategol.

Mae mwy o wybodaeth am QAA i’w gweld ar ein gwefan.  Rwy’n gobeithio y bydd y micro-safle hwn o gymorth i chi wrth i chi ystyried ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol a chyffrous hon yn natblygiad QAA.

 

Vicki Stott

Prif Weithredwr

Alastair Delaney yn sôn am yr ymgyrch recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ASA