English     |      Cymraeg

Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws)

Y Rôl

Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws)

Cyflog cystadleuol yn yr ystod o £77,711 – £135,297 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad/bandio athraol, yn ogystal â lwfans Rhag Is-ganghellor

Bydd deiliad y swydd yn cael ei benodi am dymor o 4 blynedd fel Rhag Is-ganghellor, gyda’r posibilrwydd o dymor pellach o 4 blynedd arall. Yn sail i’r rôl bydd penodiad Athro mewn Ysgol academaidd yn y Brifysgol.

Bydd Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws) yn arwain ar y gwaith o datblygu campws a seilwaith Prifysgol Caerdydd ar gyfer y dyfodol drwy wneud y canlynol:

  • Darparu arweinyddiaeth strategol sy’n cyd-fynd ag Ein dyfodol, gyda’n gilydd, gan osod gweledigaeth hirdymor feiddgar ar gyfer dyfodol y Brifysgol.
  • Goruchwylio gweithgarwch trawsnewid ac optimeiddio’r ystd ffisegol, gan gynnwys rhaglenni cyfalaf, dylunio campws cynaliadwy, a chyfleusterau rhyngddisgyblaethol hyblyg.
  • Arwain trawsnewid digidol (mewn partneriaeth â’r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth), gan sicrhau ecosystem ddigidol sy’n gydlynol, yn ddiogel, yn foesegol ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
  • Ymgorffori profiadau cynhwysol a hygyrch, o ansawdd uchel, i ddefnyddwyr ar draws amgylcheddau ffisegol a digidol.
  • Cefnogi arloesi academaidd drwy gyfrwng mannau dysgu modern, addysgeg wedi’i gwella gan dechnoleg a seilwaith ymchwil.
  • Cryfhau ecosystemau ymchwil ac arloesi drwy ddatblygu mannau, llwyfannau a systemau sy’n cyflymu prosesau cyfnewid gwybodaeth ac effaith gymdeithasol.
  • Meithrin partneriaethau mewnol ac allanol mawr, gan gynrychioli Prifysgol Caerdydd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Arwain mentrau datblygu sefydliadol a newid ymddygiad sy’n cefnogi cydweithio, cynaliadwyedd a mabwysiadu systemau digidol.
  • Meithrin a grymuso tîm sy’n perfformio’n dda, a datblygu gallu arweinyddiaeth ar draws y Brifysgol.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn gyd-grewyr campws y dyfodol, gan hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, lles a dylunio cynhwysol.

Mae’r rôl yn gofyn am farn strategol ragorol, hygrededd o ran arweinyddiaeth academaidd a phroffesiynol, a’r gallu i arwain trawsnewid mawr mewn sefydliad cymhleth.

Mae manylion llawn y rôl, gan gynnwys y prif gyfrifoldebau a’r dyletswyddau, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, wedi’i gynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth, sydd ar gael i’w lawrlwytho isod.

Dogfennau

Pecyn Gwybodaeth

Download