Disgrifiad o’r Rôl – Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio a Risg
Diben y rôl
Rydym yn awyddus i benodi aelod allanol newydd ar gyfer ein Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, un o brif bwyllgorau ein corff llywodraethu, Cyngor y Brifysgol.
Mae’r pwyllgor yn gyfrifol am:
- Asesu effeithiolrwydd trefniadau rheoli a llywodraethu risg y sefydliad, a’r rheolaethau a gweithdrefnau mewnol, ac am gynghori’r Cyngor ynghylch hyn i hyrwyddo cynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd;
- Goruchwylio trefniadau archwilio allanol a mewnol, gan gynnwys cynghori’r corff llywodraethu ynghylch penodi’r darparwyr archwilio, a goruchwylio natur a chwmpas archwiliadau allanol a mewnol ac effeithiolrwydd y prosesau archwilio; a
- Goruchwylio agweddau archwilio ar ddatganiadau ariannol y Brifysgol, gan gynnwys barn yr Archwilwyr Allanol, y datganiad o gyfrifoldebau’r aelodau, y datganiad ynghylch rheolaeth fewnol ac unrhyw fater perthnasol a godwyd yn llythyr rheoli’r Archwilwyr Allanol.
Cyfrifoldebau Allweddol
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â’r angerdd i’n cefnogi yn y gwaith hwn, gan gynnwys monitro fframwaith rheoli risgiau’r Brifysgol, goruchwylio ein gweithgarwch rheoli risg, monitro prosesau adrodd ariannol a phrosesau cydymffurfio, a pherfformiad archwilwyr (allanol a mewnol), yn ogystal â goruchwylio’r rhaglen archwilio.
Byddwch wedi ymrwymo i weithio mewn modd adeiladol, yn y rôl anweithredol hon, gyda Chadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Brifysgol a’r Prif Swyddog Ariannol wrth adolygu effeithiolrwydd systemau ariannol a systemau rheolaeth mewnol eraill Prifysgol Caerdydd.
A chithau’n aelod allanol byddwch yn annibynnol ar y Brifysgol fel y nodir yn ein Datganiad ynghylch Annibyniaeth
Manyleb yr Unigolyn
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i greu a chynnal diwylliant amrywiol a chynhwysol. Mae’r Brifysgol am annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â lefel uchel o sgiliau a chymhwysedd personol i helpu i roi sicrwydd ein bod yn cyflawni ein potensial ac yn rheoli ein hamlygrwydd i risg mewn ffordd sy’n sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Mae’r rôl yn cynnig heriau newydd, datblygiad proffesiynol parhaus a’r cyfle i wneud gwahaniaeth.
Gofynion hanfodol:
- Profiad ym maes Addysg Uwch.
- Y gallu i graffu’n feirniadol ar strategaethau, cynlluniau ariannol a chynlluniau eraill, risg, sicrwydd a goruchwylio perfformiad drwy:
- ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad proffesiynol
- dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth
- dod i farn wybodus
- defnyddio sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol effeithiol
Gofynion dymunol:
- Profiad sylweddol mewn sefydliadau Addysg Uwch mawr a/neu gymhleth, neu hanes tebyg o gyflawni ar lefel bersonol;
- Profiad mewn rôl arwain;
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl Ymddiriedolwr neu Anweithredol, yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol;
- Dealltwriaeth o gyd-destun addysg uwch ac ymchwil y DU, yn ogystal â’r cyd-destun Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach ar gyfer prifysgolion sy’n arwain y byd;
- Siaradwr Cymraeg
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, statws economaidd-gymdeithasol a/neu oedran.
Yn gyfnewid am hyn mae’r rôl ysgogol hon a fydd yn rhoi boddhad yn cynnig heriau newydd, y cyfle i wneud gwahaniaeth, a datblygiad proffesiynol parhaus i ymgeiswyr llwyddiannus, a hynny yn un o brif sefydliadau addysgol y DU, gan helpu i fynd i’r afael â heriau heddiw ac i addysgu arweinwyr yfory.
Telerau’r Rôl ac Ymrwymiad o ran Amser
Drwy fod yn aelod o’n Pwyllgor Archwilio a Risg bydd disgwyl i chi gyfrannu’r hyn sy’n cyfateb i tua chwe diwrnod y flwyddyn.
Bydd disgwyl i chi fynd i gyfarfodydd, fel arfer, bedair gwaith y flwyddyn.
Cynhelir cyfarfodydd fel arfer rhwng 9am a 5pm, yn rhithwir, ond gydag o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb neu hybrid bob blwyddyn.
Hyd y penodiad tair blynedd.
Nid oes tâl am ymgymryd â’r swydd ond telir costau teithio rhesymol a gellir darparu offer TG.