English     |      Cymraeg

Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws)

Croeso

Dyma gyfle arweinyddiaeth rhagorol i chwarae rhan wrth ddiffinio a llunio dyfodol hirdymor Prifysgol Caerdydd. Fel Rhag Is-ganghellor (Dyfodol y Campws), byddwch yn darparu’r arweinyddiaeth academaidd strategol sydd ei hangen i gyflawni camau nesaf ein campws, yr ecosystem ddigidol, a’r amgylcheddau ffisegol a rhithiol. Bydd y rôl hon yn ysgogi gweithgarwch trawsnewid yr ystad, yn cefnogi ymchwil ac addysg o’r radd flaenaf, ac yn sicrhau bod gan y Brifysgol yr adnoddau i fodloni disgwyliadau cenedlaethau’r dyfodol.

Gan weithio fel aelod allweddol o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, byddwch yn arwain rhaglenni mawr sy’n moderneiddio ein campws, yn datblygu ein gallu digidol, ac yn ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd, gweithio’n rhyngddisgyblaethol a chynhwysiant ar draws ein mannau a’n systemau. Os ydych chi’n arweinydd ysbrydoledig sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, gyda’r weledigaeth strategol a’r awdurdod i lunio Prifysgol sy’n geffyl blaen rhyngwladol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Os ydych chi o’r farn bod gennych chi’r sgiliau a’r brwdfrydedd i ragori yn yr her hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.